Cynnig y Dydd: Paned a chacen + Bwydlen ysgafn

Today’s offering: Coffee & Cake + short daily menu

Croeso

Welcome

Croeso i dymor newydd yn Llofft

Yn dilyn bwrlwm a phrysurdeb y Pasg ‘da ni’n edrych mlaen at dymor braf, cyffrous a blasus yn Llofft – gydag ambell i fachlud hyfryd dros y Fenai ac Ynys Môn.
 
Bydd ein Bwydlen Brunch yn y dydd a Pitsas gyda’r nos yn parhau dros yr haf, gyda’n Cinio dydd Sul yn dychwelyd ym mis Medi.
 
Cadwch olwg ar insta a facebook hefyd am y newyddion diweddaraf am y fwydlen ac unrhyw newidiadau yn ein horiau agor!

Cwn cyfeillgar ar dennyn lawr llawr a cwn tywys yn unig lan llofft.

Mae posib archebu bwrdd ar y we ar y diwrnod, cyn 10.00 y bore. Os  yn archebu ar ôl 10.00 gofynnwn i chi’n garedig i ffonio Llofft ar 01248 670 554.  Byddwn hefyd yn cadw ar gyfer pobl sydd yn galw ar hap.

Welcome to a new season in Llofft

Following the hustle and bustle of Easter we are looking forward to a sunny, exciting and delicious new season at Llofft, with some stunning sunsets over the Menai strait and the Isle of Anglesey.

Our daytime Brunch menu and early evening pizzas will continue over the summer, with our Sunday lunch returning in September.

 

Also keep an eye on insta and facebook for the latest news about the menu and any changes in our opening hours!

Friendly dogs on a lead are welcome downstairs and guide dogs only upstairs.

It is possible to book a table online on the day, before 10.00 am. If booking after 10.00, we ask you kindly to call Llofft on 01248 670 554. We will also have a few tables set aside for walk- ups .

Nadolig Llofft

Dewch i fwynhau cynnig Nadolig blasus Llofft sy’n dathlu cynhwysion lleol a blasau tymhorol…

Bydd bwydlen Nadolig Llofft eleni yn cael ei weini pob Dydd Gwener i Ddydd Sul, Tachwedd yr 20fed hyd at Rhagfyr yr 20fed.

I archebu bwrdd, ebostiwch post@llofft.cymru neu ffoniwch 01248 670 554. Edrychwn ymlaen i groesawu chi!

Llofft Christmas

Come and enjoy Llofft’s delicious Christmas offer which celebrates local ingredients and seasonal flavours…

Llofft’s Christmas menu this year will be served every Friday to Sunday from the 20th of November to the 20th of December. 

To book a table email us at post@llofft.cymru or call us on 01248 670 554. We look forward to welcoming you!

Swyddi

Rydym yn recrwitio!

Jobs

We're hiring!

Archebu bwrdd

Rydym yn cymryd archebion ar gyfer fyny grisiau yn unig

Troi fyny yn unig sydd angen lawr llawr

I archebu bwrdd gofynnwn i chi ffonio Llofft ar 01248 670 554 yn ystod oriau agor

I osgoi siom awgrymwn eich bod yn archebu bwrdd blaenllaw yn enwedig ar gyfer adegau prysur rhwng 12.00 a 15.00.

Grwpiau mwy...

I drafod grwpiau 20 neu fwy / partion ecscliwsif ar gyfer grwpiau o 30 a mwy, gofynnwn i chi gwblhau’r  ffurflen isod.

Book a table

We are taking bookings for upstairs only 

Bar/Caffi downstairs is walk ups only 

To book, kindly phone Llofft on 01248 670 554 during opening hours 

To avoid disappointment we suggest you book in advance for busy periods eg 12.00 – 15.00

Larger groups...

To discuss groups of 20 or more / exclusive parties for groups of 30 or more, please complete the form below.

"

Mae Llofft yn le braf a chroesawgar i ymlacio gyda ffrindia’ a theulu. Dewch i fwynhau’r gorau o’n bwyd a‘n diod lleol mewn awyrgylch Gymreig ar lannau’r Fenai.

Llofft is the perfect place to relax with friends and family. Come and enjoy the best local food and drink in a welcoming Welsh atmosphere on the Menai Strait.

"

Amdanom ni

About us

Ers bron i ganrif mae ‘teulu’ wedi bod yn rhan ganolog o stori Llofft. Teulu’r cyn berchenog Harry Wyn o’r Felinheli oedd wrth y llyw o 1928 ymlaen, pan oedd yr adeilad yn gartref i fecws Menai Bakery gyda Harry a’i wraig Joyce wedyn yn rhedeg bwyty llwyddianus Y Llofft Hwyliau.
For nearly a century “family” has been a central part of Llofft’s story. The family of the former owner Harry Wyn from Felinheli was at the helm from 1928 onwards, when the building was home to the Menai Bakery with Harry and his wife Joyce then running the successful Llofft Hwyliau or Sea Loft Restaurant.
Bellach, cwpwl arall o’r Felinheli sydd wrth y llyw - Elen ap Robert a Dylan Huws, ac mae’r cysylltiad teuluol a’r Felinheli dal yn gryf. Mae Dylan yn dod o’r pentref ac yn byw yma ers bron i 60 mlynedd (yn yr un tŷ!) gyda Elen, yn wreiddiol o Gaerdydd, yma ers dros 30 mlynedd, ac yn Y Felinheli y magwyd eu plant Gwilym, Guto a Nel.
Now another couple from y Felinheli are at the helm - Elen ap Robert and Dylan Huws, and the family connection with Felinheli is still strong. Dylan comes from the village and has lived here for almost 60 years ( in the same house!) with Elen , originally from Cardiff, here for over 30 years and in Y Felinheli their children Gwilym, Guto and Nel grew up.

Lluniau gan Manon Dafydd | Pictures by Manon Dafydd

"

Da ni fel Blackpool Rock hefo Y Felinheli wedi ei brintio tu fewn i ni!

We’re like Backpool Rock with Y Felinheli printed inside us!

"

Cyn mentro i fyd lletygarwch roedd Elen yn gweithio fel Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Prifysgol Bangor, a chyn hynny fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Cyn troi at arwain yn y byd celfyddydau cafodd Elen yrfa lwyddiannus fel cantores opera broffesiynol a bu hefyd yn gweithio fel Therapydd Cerdd.
Before venturing into the world of hospitality, Elen worked as Artistic Director of Pontio, Bangor University and before that as Artistic Director of Galeri Caernarfon. Before turning to leadership in the arts world, Elen has a successful career as a professional singer and also worked as a Music Therapist.
“Mae wedi bod yn dipyn o siwrna, o’r treilar coffi a chacen i agor lle bwyta dros ddau lawr, mae na wastad rhywbeth i’w wneud. Mae’r adeilad yn rhan annatod o hanes y pentref a da ni’n falch o chwarae’n rhan wrth gynnal hyn i’r dyfodol …a dwi wrth fy modd yn cyd-weithio gyda phobl greadigol i wireddu potensial y lleoliad anhygoel yma…”
“It’s been quite a journey, from the coffee and cake trailer to opening a place to eat over two floors - there’s always something to do. The building is an integral part of the village’s history and we are proud to play a part in maintaining this for the future… and I love working with creative people to realise the potential of this amazing location”...
Mae’r sector greadigol yn chwarae rhan bwysig yn hanes Dylan hefyd. Wedi cyfnod yn darlithio celf yng Ngholeg Menai, Bangor, roedd yn un o sylfaenwyr cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Cwmni Da. Tyfodd y cwmni i fod yn un o gwmniau cynhyrchu mwyaf Cymru a 25 mlynedd ar ôl ei sefydlu, trodd Dylan y cwmni yn gwmni ym mherchnogaeth y gweithlu – y cwmni teledu cynta i wneud hynny ym Mhrydain.
The creative sector plays an important role in Dylan’s history as well. After a period lecturing arts at Coleg Menai, Bangor, he was one of the founders of independent television production company Cwmni Da. The company grew to become one of the largest production companies in Wales and 25 years after its establishment, Dylan turned the company into a employee owned company - the first television company to do so in the Britain.
“Roedd y cyfle i drio gwneud rhywbeth hefo’r hen Llofft Hwyliau yn ormod o demtasiwn! Mae o’n faes newydd ond mae’r heriau busnes yn aros yr un fath…heblaw ein bod yn gwerthu bwyd yn lle rhaglenni teledu, a bod y gynulleidfa yn dod drwy’r drws…a tydyn nhw ddim yn ofn dweud wrthoch chi be’ mae nhw’n feddwl…pethau positif hyd yma dwi’n falch o ddeud!”
“The opportunity to try to do something with the old Sail Loft was too tempting! It’s a new area for us but the business challenges remain the same… except we’re selling food instead of TV programmes , and the audience is coming through the door.. And they’re not afraid to tell you what they think… positive things so far I’m glad to say!”

Byddwch y cyntaf i dderbyn newyddion a chlywed am unrhyw gynigion!

Ymunwch a’n rhestr bostio

Be the first to receive news and hear about any offers!

Join our mailing list

Cysylltwch gyda ni

Contact Us